Am dan yr Ysgol

aromatherapy diploma students in actionWedi ei leoli yn ardal hardd Eryri, Ysgol Aromatherapi Cymru yw'r unig ysgol yng Nghymru i gael ei achredu gan Ffederasiwn Rhyngwladol Aromatherapi (IFA). Crewyd yr ysgol mewn ymateb i fyfyrwyr a fu'n astudio aromatherapi mewn dosbarthiadau nos (WEA) oedd yn dymuno cario ymlaen gyda'u hastudiaethau er mwyn enill cymhwyster broffesiynol. Pennaeth a Sylfaenydd yr ysgol yw'r tiwtor a'r ymarferydd Aromatherapi Holistig, Lindsay Woodman BA (Anrh) LLSA, MIFA. Sefydlodd Lindsay'r ysgol dair blynedd yn ôl, gyda'r IFA yn derbyn y criw cyntaf yn 2007.

Mae'r ysgol yn croesawu dulliau cyfathrebu drwy dechnoleg a/neu'n defnyddio'r system bost er mwyn galluogi pobl o ledled Prydain a thramor yn ogystal a phobl leol i dderbyn hyfforddiant. Mae'r dull o ddysgu o bell yn gofyn disgyblaeth a sgiliau rheoli amser da gan y disgybl er mwyn iddynt allu mwynhau yr hyblygrwdd mae'r dull hwn o astudio yn ei gynnig.

Y Wyddfa, Gogledd Cymru, min nosLleolir y penwythnosau gwaith yn Nhrigonos, sef canolfan breswyl ag addysgol sy'n ysbrydoli, wedi ei lleoli yn Nyffryn Nantlle ym Mharc Cenedlaethol Eryri sy'n leoliad o harddwch naturiol hynod. Y dref agosaf yw Caernarfon ar arfordir y gogledd.

Rydym yn gweithio mewn stiwdio gyda golau naturiol a sydd wedi ei hawyru'n dda, yn ogystal â gwres canolog, gyda golygfeydd godidog dros y llyn ac i fyny'r dyffryn at yr Wyddfa. Mae'r tir sy'n perthyn i Trigonos, sy'n 18 acer, yn ymestyn i lan y llyn ac yn cynnwys gardd berlysiau a blodau, cae ar gyfer llysiau a saladau, coedlannau a nentydd ac mae croeso i unrhyw un grwydro i gorneli cuddiedig y tirlun hardd yma.

Mae Trigonos hefyd yn darparu llety, lle mae modd bwcio ar gyfer y penwythnosau os ydych chi'n dymuno aros yma. Mae bwyd cartref da iawn ar gael, gyda phwyslais ar gynnyrch ffres, sy'n aml iawn wedi eu tyfu ar y tir, ac mae modd i fyfyrwyr fwcio prydau o flaen llaw ar gyfer amser cinio os ydynt yn fyfyrwyr preswyl neu beidio.

Mae gan Trigonos bolisi ar gyfer ymarfer cynaliadwy ac wedi cyrraedd Lefel Dau o Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd. Hefyd ym mis Tachwedd 2007 gosodwyd system gwres canolog a dŵr poeth sy'n defnyddio sglodion pren fel tanwydd. Mae Trigonos wedi ennill Gwobr Twristiaeth Eryri Werdd yn 2008 am y Busnes Twristiaeth Gynaliadwy Gorau a'r Wobr Garbon Isel. Am ragor o wybodaeth ar Trigonos ymwelwch â www.trigonos.org

Mae'r gofod a'r llonyddwch a geir yn yr amgylchedd yma yn darparu awyrgylch delfrydol i adlewyrchu ac i ddatblygu ymdeimlad o hunan les. Er mwyn rhoi gofal sensitif, proffesiynol a holistig mae angen i'r therapyddion gymryd gofal o'u hunain hefyd. Mae'r ysgol yma gyda'i gwreiddiau'n ddwfn mewn doethineb hynafol a sgiliau o draddodiadau iachau ond hefyd yn defnyddio'r wybodaeth wyddonol ddiweddaraf ar yr un pryd. Wedi dweud hynny, yr hyn sy'n fwa dros holl weithgareddau'r ysgol yw'r ymdrech angerddol i ddysgu mewn awyrgylch sy'n meithrin ac yn ysbrydoli ac yn hyrwyddo ymarfer moesol, tarddiad deunyddiau a ffordd o fyw.